Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 7
Chwefror 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13218
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Datganiad gan y Llywydd
Fe wnaeth y Llywydd ddatganiad yn estyn cydymdeimlad y Senedd i Carolyn Thomas AS a’i theulu yn dilyn colli ei mab.
Fe wnaeth y Llywydd hefyd estyn cydymdeimlad ar ran y Senedd i bawb sydd wedi’u heffeithio gan y daeargryn yn Nhwrci a Syria ddoe.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.15
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+
Dechreuodd yr eitem am 14.30
4 Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24
Dechreuodd yr eitem am 15.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8194 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Rhagfyr 2022.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
13 |
0 |
38 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Siân Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gyfradd dreth sylfaenol gan 1 geiniog, y gyfradd dreth uwch gan 2 geiniog, a'r gyfradd dreth ychwanegol gan 3 ceiniog er mwyn cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd a gofal a rhoi help ariannol i bobl sydd â'r anghenion mwyaf.
Dogfennau Ategol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig
Adroddiad
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8194 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Rhagfyr 2022.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
11 |
13 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Pwynt o Drefn
Cododd Heledd Fychan Bwynt o Drefn ynghylch iaith Hefin David wrth gyfeirio at y Cyngor yng Nghaerffili sydd o dan arweiniad Plaid Cymru. Fe wnaeth y Dirprwy Lywydd ddyfarnu bod yr iaith yn gwbl amhriodol, ac y dylai’r Aelod dynnu’r sylwadau yn ôl ac ymddiheuro, ac fe wnaeth yr Aelod hynny.
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5 a 6 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5 a 6 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
5 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.25
NDM8197 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
Gosodwyd Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 26 Medi 2022.
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gerbron y Senedd ar 27 Ionawr 2023.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.25
NDM8198 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.22
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 18.24
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 8 Chwefror 2023